Slipiau Cyflog a P60

Mae eich slipiau cyflog pensiynwr a'ch P60 ar gael i'w gweld a'u lawrlwytho drwy Fy Mhensiwn Ar-lein.

✓ Mae slipiau cyflog pensiynwr ar gael drwy Fy Mhensiwn Ar-lein.

✓ Byddwch yn cael e-bost pan fydd slip cyflog newydd ar gael.

✓ Caiff eich P60 blynyddol ei gyhoeddi gyda'ch slip cyflog mis Mawrth.

Gweld Eich Slipiau Cyflog

Bydd angen mewngofnodi i Fy Mhensiwn Ar-lein.

A allaf dderbyn slipiau cyflog papur?

Os nad ydych yn dymuno defnyddio'r gwasanaeth ar-lein, gallwch ofyn am slipiau cyflog papur drwy gysylltu â ni yn ysgrifenedig.

Fel arfer, dim ond pan fydd gwahaniaeth o fwy na £10.00 o gymharu â thaliad y mis blaenorol y bydd slip cyflog papur yn cael ei gyhoeddi.

Pam y gallai fod angen fy P60 arnaf?

Gall eich P60 fod yn ddefnyddiol fel tystiolaeth o incwm wrth wneud cais am fudd-daliadau neu gymorth ariannol.