Ar Gip
✓ Cyflwynwyd Rhwymedi McCloud i gywiro gwahaniaethu ar sail oedran yn y CPLlL.
✓ Nid yw'n effeithio ar bob aelod. Efallai eich bod yn gymwys os oeddech yn aelod o gynllun gwasanaeth cyhoeddus cyn 1 Ebrill 2012.
✓ Nid yw bod yn gymwys ar gyfer Rhwymedi McCloud o reidrwydd yn golygu y bydd eich buddion yn cynyddu.
✓ Nid oes angen gwneud cais na chymryd unrhyw gamau ychwanegol.
✓ Bydd unrhyw ddiogelwch perthnasol yn cael ei gyfrifo'n awtomatig pan fydd eich buddion yn cael eu prosesu.
Ddim yn siŵr a yw Rhwymedi McCloud yn berthnasol i chi?
Saesneg yn unig.
Beth yw Rhwymedi McCloud?
Pan newidiodd y CPLlL o gynllun cyflog terfynol i gynllun Cyfartaledd Gyrfa (CARE) ar 1 Ebrill 2014, cafodd rhai aelodau hŷn ddiogelwch rhag y newidiadau na chafodd aelodau iau ei dderbyn.
Yn 2018, penderfynodd y llysoedd fod y trefniadau hyn yn gwahaniaethu ar sail oedran. O ganlyniad, cyflwynwyd Rhwymedi McCloud i gywiro'r anghydraddoldeb hwn a sicrhau bod aelodau cymwys yn cael y buddion gorau sydd ar gael iddynt.
Ydw i'n debygol o gael fy effeithio?
Efallai y bydd Rhwymedi McCloud yn berthnasol i chi os:
- oeddech yn aelod o'r CPLlL neu gynllun gwasanaeth cyhoeddus arall cyn 1 Ebrill 2012;
- oeddech yn aelod o'r CPLlL rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2022; ac
- nad oedd gennych fwlch anghymhwyso yn eich aelodaeth.
Oes angen i mi wneud unrhyw beth?
Na.
Nid oes angen i chi gyflwyno cais na chysylltu â Chronfa Bensiwn Gwynedd er mwyn cael eich ystyried ar gyfer Rhwymedi McCloud.
Os ydych yn gymwys, bydd unrhyw ddiogelwch perthnasol yn cael ei gyfrifo'n awtomatig fel rhan o'r broses arferol.
Beth mae hyn yn ei olygu i fy mhensiwn?
Ar gyfer y rhan fwyaf o aelodau, ni fydd Rhwymedi McCloud yn newid y ffordd y mae eu pensiwn yn cael ei adeiladu nac yn effeithio ar eu cyfraniadau.
Fodd bynnag, ar gyfer aelodau cymwys, gall y rhwymedi arwain at welliant i'w buddion pensiwn os yw hynny'n darparu canlyniad mwy ffafriol.
Bydd Cronfa Bensiwn Gwynedd yn cyfrifo ac yn cymharu'r buddion perthnasol pan fydd eich pensiwn yn cael ei brosesu.
Pryd fydd Rhwymedi McCloud yn cael ei ystyried?
Bydd unrhyw ddiogelwch McCloud yn cael ei gyfrifo pan:
- fyddwch yn cymryd eich pensiwn;
- fydd buddion gohiriedig yn cael eu talu; neu
- fydd adolygiad o fuddion aelod sydd eisoes wedi ymddeol yn barod.

